Lisvane Music Festival
GŴYL Gerdd Llys-Faen 2027

25th-28th February | Chwefror 2027

Patrons | Ein Noddwyr: Huw Watkins MBE & Neil Cox

Artistic Directors | Cyfarwyddwyr Artistig: Katie Taunton & Jack Redman

Board | Ein Bwrdd Ymddiriedolwyr: Dr Jeremy Huw Williams, Alex Milne, Joanna Harries, Katie Taunton, Dan Messer & Alison Machon

Katie & Jack co-founded the Lisvane Music Festival in February 2026 and were delighted to present an inaugural programme of events across the St David’s Day weekend.

Lisvane Music Festival presents world-class chamber music in the semi-rural community of Lisvane, North Cardiff, bringing exceptional artists to local audiences while creating opportunities for people of all ages to experience, participate in and connect with music.

Through performances, education programmes and community initiatives, the festival seeks to make music accessible, inspiring and meaningful, fostering a lifelong engagement with the arts. 

Sefydlwyd Gŵyl Gerddoriaeth Llys-faen gan Katie a Jack ym mis Chwefror 2026, ac roedd y ddau’n falch o gyflwyno eu rhaglen gyntaf o ddigwyddiadau dros benwythnos Gŵyl Dewi.

Mae Gŵyl Gerddoriaeth Llys-faen yn cyflwyno cerddoriaeth siambr o'r radd flaenaf yng nghymuned Llys-faen yng ngogledd Caerdydd, mewn ardal sy’n lled wledig. Daw ag artistiaid eithriadol i gynulleidfaoedd lleol gan greu cyfleoedd i bobl o bob oed brofi cerddoriaeth, i gymryd rhan ynddi, ac i gysylltu â hi.

Drwy berfformiadau, rhaglenni addysg a mentrau cymunedol, mae'r ŵyl yn ceisio gwneud cerddoriaeth yn hygyrch, yn ysbrydoledig ac yn ystyrlon, gan feithrin ymgysylltiad gydol oes â'r celfyddydau. 


Support Us | Cefnogwch Ni

Help us bring extraordinary music to Lisvane | Helpwch ni i ddod â cherddoriaeth o’r radd flaenaf i Llys-faen

Become a Friend or festival champion | Ymunwch fel Cyfaill i’r Ŵyl neu’n Bencampwr yr Ŵyl

Lisvane Music Festival is built by people who believe that extraordinary live music should be part of local life. By becoming a Festival Friend or Festival Champion, you help us bring international musicians, composers and audiences together in Lisvane.

Mae Gŵyl Gerddoriaeth Llys-faen yn bodoli diolch i bobl sy’n credu y dylai cerddoriaeth fyw arbennig fod yn rhan o fywyd y gymuned. Drwy ymuno fel Cyfaill i’r Ŵyl neu Bencampwr yr Ŵyl, rydych chi’n ein helpu i ddod â cherddorion, cyfansoddwyr a chynulleidfaoedd rhyngwladol at ei gilydd yn Llys-faen.

As a Friend – for just £25 or (£30 for two) a year, you’ll become part of the festival family and receive:

- Invitation to our Friends and supporters’ drinks

- Priority booking for selected events

- Advance release of the festival programme

- Our newsletter and behind-the-scenes festival updates

- Your name listed in the festival programme (if you wish)

As a Champion - £75 + a year, you’ll become part of the festival family and receive:

- Invitation to our Friends and supporters’ drinks

- Priority booking for selected events

- Advance release of the festival programme

- Our newsletter and behind-the-scenes festival updates

- Your name listed in the festival programme (if you wish)

- Opportunities to meet festival artists.

Most importantly, you will be helping us build something lasting for our community.

Interested in becoming a Friend or Festival Champion? Get in touch with us to find out more and request an application form.

Fel Cyfaill – am ddim ond £25 y flwyddyn neu £30 am ddwy flynedd, byddwch yn ymuno â theulu’r ŵyl ac yn cael:

- Gwahoddiad i dderbyniad diodydd i’n cyfeillion a’n cefnogwyr

- Cyfle i fod y cyntaf i archebu ar gyfer rhai digwyddiadau

- Rhaglen yr ŵyl ymlaen llaw

- Ein cylchlythyr a’r diweddariadau y tu ôl i’r llenni am yr ŵyl

- Eich enw wedi’i restru yn rhaglen yr ŵyl (os dymunwch)

Fel Pencampwr – am £75 neu fwy y flwyddyn, byddwch yn ymuno â theulu’r ŵyl ac yn cael:

- Gwahoddiad i dderbyniad diodydd i’n cyfeillion a’n cefnogwyr

- Cyfle i fod y cyntaf i archebu ar gyfer rhai digwyddiadau

- Rhaglen yr ŵyl ymlaen llaw

- Ein cylchlythyr a’r diweddariadau y tu ôl i’r llenni am yr ŵyl

- Eich enw wedi’i restru yn rhaglen yr ŵyl (os dymunwch)

- Cyfleoedd i gwrdd ag artistiaid yr ŵyl.

Yn bwysicaf oll, byddwch yn ein helpu i adeiladu rhywbeth parhaol ar gyfer ein cymuned.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno fel Cyfaill i’r Ŵyl neu Bencampwr yr Ŵyl? Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais.


Local businesses and organisations play a hugely important role in helping us make the festival possible.

Your sponsorship could help us:

- Give a day of specialist composition workshops to children in local schools, including Llys-Faen Primary School.

- Bring live music and dementia-friendly workshops to local care settings, including Llys Herbert Care Home.

- Support music-making for patients and families through concerts in partnership with local hospices, including Velindre and City Hospice.

- Support one of our festival concerts and the professional musicians who perform in it.

We are happy to work with sponsors to find an opportunity that reflects their interests and values. Whether you would like to support education, community music, a particular concert or as principal sponsor of the festival, we’d love to talk to you.

Get in touch to discuss sponsorship opportunities.

Sponsorship | Noddi

Mae busnesau a sefydliadau lleol yn chwarae rhan hynod bwysig wrth ein helpu i wneud yr ŵyl yn bosibl.

Gallai eich nawdd ein helpu i wneud y canlynol:

- Cynnig diwrnod o weithdai cyfansoddi arbenigol i blant mewn ysgolion lleol, gan gynnwys Ysgol Gynradd Llys-faen.

- Dod â cherddoriaeth fyw a gweithdai sy’n ystyriol o ddementia i leoliadau gofal lleol, gan gynnwys Cartref Gofal Llys Herbert.

- Cefnogi gweithgareddau cerddorol i gleifion a’u teuluoedd drwy gyngherddau mewn partneriaeth â hosbisau lleol, gan gynnwys Hosbis Felindre a Hosbis y Ddinas.

- Cefnogi un o gyngherddau’r ŵyl a’r cerddorion proffesiynol sy’n perfformio ynddi.

Rydym yn falch o weithio gyda noddwyr i greu cyfleoedd sy’n adlewyrchu eu diddordebau a’u gwerthoedd. P’un a hoffech gefnogi addysg, cerddoriaeth gymunedol, cyngerdd benodol, neu noddi’r ŵyl fel prif noddwr, byddem yn falch o siarad â chi.

Cysylltwch â ni i drafod cyfleoedd o ran noddi.


Become a volunteer | Ymuno fel Gwirfoddolwr

Lisvane Music Festival simply wouldn’t be possible without the generosity of our volunteers.

There are lots of ways to get involved, both before and during the festival. We are looking for people who can help with:

- Distributing posters and publicity

- Welcoming and ushering audiences

- Welsh Language Support

- Helping with artist accommodation and hospitality

- Supporting sponsorship and local fundraising

But don’t feel that you need to fit into one of these roles. If you have a skill, idea or simply some time that you would like to share, we’d love to hear from you.

Ni fyddai Gŵyl Gerddoriaeth Llys-faen yn bosibl heb haelioni ein gwirfoddolwyr.

Mae sawl ffordd o gymryd rhan, cyn ac yn ystod yr ŵyl. Rydym yn chwilio am bobl a all helpu gyda’r canlynol:

- Dosbarthu posteri a deunyddiau hyrwyddo

- Croesawu a thywys cynulleidfaoedd

- Rhoi cymorth gyda’r Gymraeg

- Helpu i drefnu llety a lletygarwch i artistiaid

- Cefnogi gweithgareddau nawdd a chodi arian lleol

Ond peidiwch â theimlo bod rhaid ichi ymgymryd ag un o’r rolau hyn. Os oes gennych sgìl, syniad neu ychydig o amser yr hoffech ei roi, byddem yn falch iawn o glywed gennych.


Supporters | Cefnogywyr

Get in Touch | Cysylltwch â ni
info@lisvanemusic.com

Croeso i siarad Cymraeg gyda ni!